Amdanom ni | About us

Sefydlwyd Mercator yn 1988 fel rhwydwaith Ewropeaidd yn dilyn Cynnig Kuijpers a basiwyd gan Senedd Ewrop. 

Dros y degawdau mae Rhwydwaith Mercator wedi esblygu gan gadw at ei genadwri a’i arbenigedd: cynyddu a lledaenu ymchwil, gwybodaeth, dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth oamrywiaeth ieithyddol ac o ieithoedd lleiafrifol/edig Ewrop.

Mercator yng Nghymru

O’r cychwyn, lleolwyd Mercator-Cyfryngau yng Nghymru, a daeth Canolfan Mercator neu Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant yn adnabyddus oherwydd ei arbenigedd mewn ieithoedd lleiafrifol/edig ac mewn cyfnewid diwylliannol rhyngwladol. Yma hefyd y cartrefir Cyfnewidfa Lên Cymru (ers 1998) a Llenyddiaeth ar draws Ffiniau (ers 2001). Maent yn cydweithio’n agos ac yn cael eu cefnogi drwy fuddsoddiad ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mercator Heddiw

Yn 2018, sefydlwyd Mercator fel cwmni annibynnol yng Nghymru, sef Mercator Rhyngwladol. Aelodau Bwrdd y Cyfarwyddwyr yw Alexandra Büchler, Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Elwyn Jones (Cadeirydd), Dr Robyn Marsack, Ned Thomas a Rebecca Williams.

Mae gan Mercator Rhyngwladol bartneriaeth strategol gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a bellach mae gweithgaredd Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant wedi ei leoli yn y Brifysgol.

Mercator was established in 1988 as a European network following the Kuijpers Resolution passed at the European Parliament.

Over the decades, the Mercator Network has evolved whilst retaining its mission and expertise: to enhance and disseminate research, knowledge, understanding and awareness of Europe’s linguistic diversity and its minority/minoritized languages.

Mercator in Wales

Since the beginning, the home of Mercator-Media has been in Wales, and the Mercator Centre or the Mercator Institute for Media, Languages and Culture became well known for its expertise on minority/ised languages and in international cultural exchange. It is also home to Wales Literature Exchange, (since 1998) and Literature Across Frontiers (since 2001). Both work in close collaboration, and are supported through joint investment by the Arts Council of Wales.

Mercator Today

In 2018, Mercator was established as an independent company in Wales, Mercator International. Its Board of Directors are Alexandra Büchler, Professor Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Elwyn Jones (Chair), Dr Robyn Marsack, Ned Thomas and Rebecca Williams.

Mercator International has a strategic partnership with the University of Wales Trinity Saint David and the activity of the Mercator Institute for Media, Languages and Culture is hosted at the University.